CELG(4) WPL 03
Cyhoeddodd S4C yn ddiweddar mor falch oedden nhw eu bod yn cyfrannu at goffrau clybiau Uwch-gynghrair Cymru drwy deledu ei gemau ar brynhawn Sadwrn. Ond deallwyd yn fuan nad yw'r clybiau'n cael cyfran o'r tal. Cefais wybod gan Neville Powell, rheolwr Bangor, fod 'cefnogwyr' yn eistedd mewn tafarnau yn y ddinas yn gwylio gemau Bangor ar y teledu yn lle talu i fynd i mewn i'r cae! (o leiaf yn nyddiau Ffordd Farrar). Oni ddylai'r Gyndeithas rannu peth o'r tal gyda'r clybiau, fel sy'n digwydd yn Lloegr?
Philip Lloyd